YoVDO

Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer arwain

Offered By: OpenLearn

Tags

Team Building Courses Empathy Courses Self-reflection Courses

Course Description

Overview

Save Big on Coursera Plus. 7,000+ courses at $160 off. Limited Time Only!
Sut mae'r byd hybrid yn gwneud i chi, fel arweinydd, deimlo? Ydych chi'n teimlo nad oes gennych chi reolaeth? Ydych chi'n ymddiried yn eich tîm a'ch gweithlu i gwblhau'r swydd, neu ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus o'u cael nhw o fewn golwg mewn swyddfa? Mae gweithio hybrid yma i aros, a nawr yn fwy nag erioed, bydd angen i chi ddeall sut mae eich cyflogeion yn teimlo am hyn – a sut rydych chi'n teimlo hefyd. Os cefnogir gweithio hybrid gan sefydliad ar bob lefel gall greu newid gwirioneddol a chadarnhaol i'r gweithlu. Ond, mae angen arweinwyr i fabwysiadu cynhwysiant a chreu cysylltiadau â'u gweithlu hybrid. Mae'n gofyn am ymddiriedaeth. Mae'n gofyn am empathi. Mae angen diogelwch seicolegol arno. Mae angen atebolrwydd clir arno. Mae angen arweinwyr i'w gysylltu â'r gweithlu a'i ddyneiddio. Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi adfyfyrio ar bwy ydych chi fel arweinydd hybrid a sut rydych chi eisiau datblygu. Bydd yn eich helpu i ddeall sut i ddangos empathi â'ch gweithlu a sut i addasu eich sgiliau cyfathrebu wrth weithio yn y swyddfa ac wrth weithio o bell. Bydd yn eich annog i ddechrau meddwl sut y gallwch ysgogi eich gweithle i ffynnu yn y byd hybrid newydd hwn a beth y gallwch chi ei wneud i'w helpu i ddatblygu a theimlo'n ddiogel.Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Syllabus

  • Cyflwyniad
  • Deilliannau Dysgu
  • 1 Y normal newydd
  • 1 Y normal newydd
  • 1.1 Sut gyrrhaeddon ni yma?
  • 1.2 Mae angen i arweinwyr godi’r safon
  • 1.3 Ein ffordd o weithio nawr: yn fwy na newid lleoliad yn unig
  • 1.4 Deall diwylliant eich sefydliad
  • 1.5 Diffinio diwylliant: y safon aur
  • 1.6 Diwylliant hybrid: sut beth yw ‘gwych’?
  • 1.7 (Ail)ddylunio a datblygu’ch diwylliant hybrid
  • 2 Mae ffyrdd newydd o weithio yn gofyn ffyrdd newydd o arwain
  • 2 Mae ffyrdd newydd o weithio yn gofyn ffyrdd newydd o arwain
  • 2.1 Rheoli a dylanwad
  • 2.2 Peidiwch â rhoi’r bai ar eraill
  • 2.3 Atebolrwydd
  • 2.4 Cyflwyno ymholiad gwerthfawrogol (AI)
  • 2.5 Ymholi gwerthfawrogol ar waith
  • 2.6 Empathi
  • 2.7 Datblygu hunan-ymwybyddiaeth
  • 2.8 Gwytnwch
  • 2.9 Ail-fframio eich problemau
  • 3 Creu amgylchedd i symud o oroesi i ffynnu
  • 3 Creu amgylchedd i symud o oroesi i ffynnu
  • 3.1 Cyfathrebu heb ddenu sylw
  • 3.2 Gwrando gweithredol
  • 3.3 Cydweithio’n well
  • 3.4 Yr angen am sgiliau cydweithredu newydd
  • 3.5 Sut mae arwain timau cydweithredol?
  • 3.6 Magu ymddiriedaeth
  • Casgliad
  • Cyfeiriadau
  • Cydnabyddiaethau

Related Courses

The Divine Comedy: Dante's Journey to Freedom
Georgetown University via edX
Gestire il conflitto
Politecnico di Milano via Polimi OPEN KNOWLEDGE
Gestire il cambiamento
Politecnico di Milano via Polimi OPEN KNOWLEDGE
Power Onboarding
Northwestern University via Coursera
In the Name of Identity
Acumen Academy