Gweithio hybrid: dechrau yn y gweithle
Offered By: OpenLearn
Course Description
Overview
Gall dechrau mewn gweithle newydd – p'un ai dyna eich swydd gyntaf 'go iawn' ar ôl gorffen eich addysg, neu'r cam nesaf yn natblygiad eich gyrfa – fod yn gyffrous ac yn frawychus. Os mai sefydliad hybrid ydyw, a bod eich diwrnod cyntaf mewn lleoliad anghysbell yn hytrach na gweithle ffisegol, gall hynny fod hyd yn oed yn fwy dryslyd. Nod y cwrs hwn yw eich helpu i lywio eich diwylliant sefydliadol newydd, meithrin cydberthnasau gyda'ch cydweithwyr mewn amgylchedd hybrid, deall disgwyliadau eich cyflogwr a mynegi eich nodau i fodloni'r disgwyliadau hynny neu hyd yn oed ragori arnynt. Byddwch yn cael eich annog i fyfyrio ar eich sgiliau a'ch profiadau presennol – yn y gwaith a'r tu allan iddo – ac i ystyried sut y gellir addasu'r rhain a'u datblygu yn eich gweithle hybrid newydd. Bydd llawer ohonoch wedi arfer rhannu ac ymgysylltu â phobl eraill ar lwyfannau'r cyfryngau cymdeithasol, felly sut gallwch drosi'r arferion hyn i gydweithio yn y gweithle? Ceir ffocws ar alluoedd digidol a magu hyder mewn technoleg, yn ogystal ag awgrymiadau ar reoli eich llesiant pan fyddwch yn gweithio o bell i'ch galluogi i ffynnu yn y gwaith. Mae'r cwrs hwn yn rhan o'r casgliad Cefnogi gweithio hybrid a thrawsnewid digidol, a wnaed yn bosibl gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Syllabus
- Cyflwyniad
- Deilliannau Dysgu
- 1 Blaenoriaethau sy’n newid
- 1 Blaenoriaethau sy’n newid
- 1.1 Addasu i newid
- 2 Gwneud cais am swydd yn y gweithle hybrid
- 2 Gwneud cais am swydd yn y gweithle hybrid
- 2.1 Datblygu a dogfennu eich sgiliau
- 2.2 CVs Rhithwir
- 2.3 Cyfweliadau ar-lein
- 2.4 Dysgu o bob ymgais
- 2.5 Cyn derbyn swydd
- 3 Paratoi i ddechrau eich swydd newydd
- 3 Paratoi i ddechrau eich swydd newydd
- 3.1 Eich swyddfa gartref
- 3.2 Ansicrwydd gwaith
- 3.3 Yr offer iawn
- 4 Diwylliant sefydliadol
- 4 Diwylliant sefydliadol
- 5 Cyflawni nodau
- 5 Cyflawni nodau
- 6 Sgiliau digidol
- 6 Sgiliau digidol
- 7 Cydweithio rhithiwir yn y gweithle
- 7 Cydweithio rhithiwir yn y gweithle
- 8 Rheoli eich lles wrth weithio o bell
- 8 Rheoli eich lles wrth weithio o bell
- 8.1 Cyfarfodydd rhith-wir
- 8.2 Recognising when you need support
- Casgliad
- Cyfeiriadau
- Cydnabyddiaethau
Related Courses
Surviving Your Rookie Year of Teaching: 3 Key Ideas & High Leverage TechniquesMatch Teacher Residency via Coursera Español Salamanca A2
Universidad de Salamanca via Miríadax Better Leader, Richer Life
University of Pennsylvania via Coursera Caring for Vulnerable Children
University of Strathclyde via FutureLearn Networking Leadership 101: Building Your Core Professional Network
Center for Creative Leadership via Acumen Academy